Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Gogledd-Orllewin Ucheldir
Ceredigion
|
|
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Afon Leri yn cynnwys llawr dyffryn afon fach a’i lethrau is. Tirwedd amaethyddol o ffermydd wedi’u hadeiladu o garreg, a chaeau a rennir yn wrychoedd a waliau sych ydyw yn ei hanfod, ond mae’n cynnwys olion mwyngloddiau metel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. |
|
|
Llethr serth wedi’i orchuddio â choetir yw prif elfen Allt Goch. Nid oes unrhyw aneddiadau, ond ceir olion mwyngloddiau metel o fewn y coetir. |
|
|
Mae Allt y Gwreiddyn yn llethr serth wedi’i orchuddio â choed trwchus. Ceir ychydig o leiniau agored o dir pori o fewn y coedwigoedd, ond dim aneddiadau. |
|
|
Mae Banc Bwlch Roser yn esgair o dir wedi’i wella gan mwyaf a leolir rhwng rhostir uchel, agored a thir amaeth amgaeëdig, is. Mae’n cynnwys dwy fferm anghyfannedd ac olion mwyngloddiau metel. |
|
|
Mae esgair uchel o rostir agored a fferm wynt ac olion mwyngloddiau plwm yn dyddio o’r 19eg ganrif yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Banc Bwa-Drain. |
|
|
Mae system gaeau reolaidd o gloddiau ac arnynt wrychoedd yn nodweddu esgair Banc Ceunant. Fe’i lleolir rhwng tir amaeth is a rhostir uwch. Nid oes unrhyw aneddiadau. |
|
|
Wedi’i lleoli rhwng rhostir uwch a thir amaeth amgaeëdig is, mae esgair uchel Banc Llety Ifan Hen yn cynnwys caeau mawr o dir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifren. Nid oes unrhyw aneddiadau, ond mae olion hen fwyngloddiau plwm yn amlwg. |
|
|
Mae rhostir agored a phocedi o dir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifrau yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Banc Llechwedd-ddu. Nid oes unrhyw aneddiadau. |
|
|
Tir pori garw ac olion gweithgarwch cloddio am blwm yw prif nodweddion y boced fach hon o rostir a elwir yn Fanc Trawsnant. Erbyn hyn ceir planhigfeydd o goed coniffer o bob tu iddi bron. |
|
|
Mae Banc Troedrhiwseiri yn cynnwys esgair o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau a ffensys gwifren. Nid oes unrhyw aneddiadau. |
|
|
Mae Bont-goch yn ardal dirwedd gymhleth sy’n cynnwys pentref cnewyllol llac o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, ffermydd bach, gwasgaredig, a chaeau mawr o dir pori wedi’i wella a thir pori garw. Mae olion y diwydiant cloddio plwm yn amlwg. |
|
|
Mae Bryngwyn yn dirwedd o ffermydd a thai gwasgaredig, wedi’u lleoli o fewn caeau bach, afreolaidd eu siâp, ac ambell glwstwr o goetir collddail a chonifferaidd. At ei gilydd mae’r adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. |
|
|
Er yr ymddengys fod tirwedd Bwlchcrwys yn cynnwys tir pori wedi’i wella, agored a ffermydd gwasgaredig gan mwyaf, o edrych arni’n fanylach gwelir ffensys gwifren a hen gloddiau terfyn. Tirwedd fryniog ydyw heb fawr ddim coed ar wahân i blanhigfeydd bach o goed coniffer a’r coed hynny sy’n tyfu gerllaw anheddau. |
|
|
Lleolir pentref diwydiannol yn dyddio o’r 19eg ganrif yng nghanol ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Capel Bangor. Mae’r adeiladau yng nghraidd y pentref yn cynnwys bythynnod a thai gweithwyr bach, a cheir ‘filas’ mwy o faint yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ar ei gyrion. Mae’r datblygiad diwydiannol hwn yn gorwedd ar dirwedd o gaeau wedi’u hamgáu gan wrychoedd ar gloddiau a ffermydd gwasgaredig. |
|
|
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cefn Bangor a Chefn Fuches yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau a rennir gan gloddiau. Ceir gwrychoedd ar rai cloddiau, ond erbyn hyn ffensys gwifren yw’r prif fath o ffin. Mae adeiladau’r ffermydd yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf a cheir rhai anheddau modern. |
|
|
Dechreuodd Cnwch Coch fel anheddiad sgwatwyr ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae hyn yn esbonio’r nifer o fythynnod brodorol, bach yn y pentref clystyrog llac. O bob tu i’r pentref ceir tirwedd o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a rennir gan wrychoedd ar gloddiau. |
|
|
Mae ffermydd gwasgaredig, caeau bach, afreolaidd eu siâp a chlystyrau o goetir collddail a chonifferaidd ar lawr a llethrau is dyffryn ucheldirol Afon Stewi yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Coed Gruffydd. |
|
|
Mae ychydig o ffermydd bach, gwasgaredig a chaeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau a gwrychoedd o fewn dyffryn ucheldirol, cul â llethrau serth yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cwm-Magor. |
|
|
Mae Cwmerfyn yn dirwedd gymhleth a leolir ym mlaen dyffryn ucheldirol â llethrau serth. Mae ei phrif elfennau yn cynnwys olion gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, tai gweithwyr a ffermydd gwasgaredig. Mae’r rhain yn sefyll mewn tirwedd o gaeau afreolaidd eu siâp o dir pori wedi’i wella. |
|
|
Ffermydd wedi’u gwasgaru ar hyd llawr dyffryn serth, caeau bach o dir pori wedi’i wella ac olion sylweddol o fwyngloddiau metel yn dyddio o’r 19eg ganrif yw prif elfennau tirwedd hanesyddol Cwmnewidion. |
|
|
Mae olion y diwydiant cloddio metel, tai gweithwyr gwasgaredig yn dyddio o’r 19eg ganrif, ffermydd gwasgaredig a chynllun hydrodrydanol yn dyddio o’r 20fed ganrif wedi’u gwasgu i mewn i lawr cul dyffryn Afon Rheidol a’i lethrau is, serth yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cwm Rheidol. |
|
|
Olion gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn gorwedd ar draws llawr a llethrau is dyffryn ucheldirol â llethrau serth yw elfennau amlycaf ardal tirwedd hanesyddol Cwmsymlog. Mae adeiladau diwydiannol adfeiliedig, tomenni ysbwriel, tai gweithwyr, adeiladau domestig eraill a chapel i gyd yn elfennau pwysig yn y dirwedd. |
|
|
Ffermydd gwasgaredig, a chaeau afreolaidd eu siâp a rennir gan gloddiau a chloddiau cerrig y ceir gwrychoedd arnynt weithiau yw prif elfennau tirwedd hanesyddol Cynnull. |
|
|
Mae ffermydd gwasgaredig, clwstwr bach o fythynnod gweithwyr yn dyddio o’r 19eg ganrif, olion gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a chaeau o dir pori wedi’i wella yn nodweddu tirwedd Daren. |
|
|
Mae dyffryn Afon Ystwyth o fewn ardal tirwedd hanesyddol Grogwynion a Gwaithgoch yn gul ac yn serth. Mae llawr y dyffryn heb ei amgáu ac fe’i defnyddir fel tir pori gwlyb, garw. Lleolir dwy fferm ar y llethrau is, ond olion mwyngloddiau metel yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yw elfennau amlycaf yr ardal hon. |
|
|
System gaeau reolaidd o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd, a phlanhigfeydd o goed collddail a choed coniffer yw prif elfennau tirwedd Hen Gaer. Nid oes unrhyw aneddiadau. Mae’r fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn a roddodd i’r ardal ei henw yn bwysig. |
|
|
Lleolir pentref llinellol bach yn dyddio o’r 19eg ganrif, yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif yng nghanol ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llanafan. Ceir caeau bach o dir pori o gwmpas y pentref. |
|
|
Lleolir pentref Llanfihangel-y-Creuddyn yng nghanol yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon. Pentref cnewyllol, bach ydyw ac iddo eglwys Ganoloesol yn ei ganol yn ogystal â nifer o dai a adeilawyd cyn y 19eg ganrif, sy’n anarferol yn achos y rhanbarth hwn. |
|
|
Yn ymestyn ar draws llawr a llethrau is dyffryn ucheldirol, mae Llawr-y-Cwm-Bach yn cynnwys nifer o aneddiadau anghyfannedd, fferm ucheldirol, olion gweithgarwch cloddio am fetel a thir pori garw a phocedi o dir pori wedi’i wella. |
|
|
Mae Llety Synod a Frongoch yn cynnwys tirwedd fryniog, rhwng 220m a 340m, o ffermydd gwasgaredig ac olion y diwydiant cloddio am fetel. Mae’r olion diwydiannol hyn yn elfen gref yn y dirwedd hanesyddol ac yn Frongoch maent yn cynnwys y casgliad gorau yn ôl pob tebyg o adeiladau mwynglawdd yn dyddio o’r 19eg ganrif yng Nghymru. |
|
|
Mae Llwyn-Crychyddod yn ardal tirwedd hanesyddol fach sy’n cynnwys caeau rheolaidd eu siâp a sefydlwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Nid oes unrhyw aneddiadau. |
|
|
Ffermiau ar wasgar a chaeau bach afreolaidd o borfa amgen ar y llawr fflat a'r llethrau isaf o'r Rheidiol sydd yma. Yn bresennol hefyd mae lynoedd mewn hen chwareli grafel ac olion cloddio metel.
|
|
|
Yn ei hanfod mae Maen Arthur yn dirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach, afreolaidd eu siâp o dir pori. Lleolir olion mwyngloddiau metel bach yn dyddio o’r 19eg ganrif yn yr ardal hon, yn ogystal â New Row, sef rhes o fythynnod gweithwyr. |
|
|
Mae cwpl o ffermydd ucheldirol a bythynnod/tyddynnod anghyfannedd a leolir o fewn caeau bach, afreolaidd eu siâp o dir pori yn nodweddu tirwedd Moelgolomen. Ceir olion gweithgarwch cloddio am fetel yn dyddio o’r 19eg ganrif yn yr ardal hon. |
|
|
Planhigfeydd helaeth o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif yw prif elfennau tirwedd Mynydd March. Fe’u plannwyd dros rostir agored lle y nodwyd olion nifer o fythynnod anghyfannedd, hen fwyngloddiau metel, caer o’r Oes Haearn a meini hirion o’r Oes Efydd. |
|
|
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Nantyrarian yn cynnwys tirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach yn ymestyn ar draws llawr a llethrau is dyffryn serth. Wedi’u harosod ar y dirwedd hon mae mwyngloddiau mwyn a chymunedau mwyngloddio yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif . Mae’r aneddiadau mwyngloddio yn elfennau pwysig yn y dirwedd. |
|
|
Mae planhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif yn diffinio ac yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pant-y-Haidd. Sefydlwyd y planhigfeydd dros rostir agored a lled-agored. Lleolir bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn o fewn y planhigfeydd. |
|
|
Bythynnod/tyddynnod mewn tirwedd o dir pori wedi’i wella a thir pori garw, a leolir ar esgair uchel uwchlaw dyffryn Afon Ystwyth, yw rhai o brif elfennau tirwedd hanesyddol Pengrogwynion a Brynafan. Dechreuodd y patrwm anheddu fel aneddiadau sgwatwyr ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. |
|
|
Mae Penrhyn-coch yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymhleth. Yn gorwedd ar y patrwm sylfaenol o hen ffermydd gwasgaredig wedi’u lleoli mewn caeau bach a rennir gan gloddiau a gwrychoedd ceir dau anheddiad diwydiannol yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif - sef Penrhyn-coch a Phen-bont Rhydybeddau - a thai modern helaeth ym Mhenrhyn-coch. |
|
|
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pen-rhiw-newydd ar esgair gron o dir pori wedi’i wella a rannwyd yn gaeau gan gloddiau ac ambell wal sych. Lleolir dau bentrefan yn dyddio o’r 19eg ganrif - sef Pen-rhiw-newydd a Salem - ar yr esgair. |
|
|
Yn ei hanfod pentref yw Pontarfynach a ddatblygodd yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif i wasanaethu’r diwydiant twristiaeth. Mae wedi’i ganoli ar bont enwog ‘Devil’s Bridge’ ac adeilad trawiadol Gwesty’r Hafod Arms gerllaw. |
|
|
Mae clystyrau helaeth o hen goetir collddail a rhai planhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif ar lethrau serch yn darparu prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Coetir Cwm Rheidol. Lleolir olion y diwydiant cloddio plwm o fewn y coetir. |
|
|
Caeau bach a rennir gan wrychoedd ar gloddiau, ffermydd gwasgaredig a chlystyrau o goetir collddail yw prif elfennau tirwedd hanesyddol Rhosgoch. |
|
|
Mae Rhos Rhydd yn esgair o dir pori wedi’i wella a amgaeir gan rai ffensys gwifren. Nid oes unrhyw aneddiadau, er y ceir ychydig o goetir ar rai o lethrau’r esgair. Lleolir bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn o fewn yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon. |
|
|
Cyn i sgwatwyr ymsefydlu yma ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif roedd Rhos-y-Gell yn rhostir agored. Mae llawer o’r bythynnod a’r tyddynnod niferus a sefydlwyd wedi goroesi, ond mae rhai yn anghyfannedd. Fe’u lleolir mewn tirwedd o dir pori garw. |
|
|
Mae tyddynnod a bythynnod o fewn tirwedd o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau ag ambell wrych yn nodweddu tirwedd hanesyddol Rhydpererinion. |
|
|
Mae tir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifren ar fryn crwn yn nodweddu tirwedd Tal y Fan. Nid oes unrhyw aneddiadau ond mae dwy fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn yn elfennau pwysig yn y dirwedd. Ceir coetir collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer ar lethrau’r bryn. |
|
|
Tirwedd amaethyddol o gaeau bach a ffermydd gwasgaredig yw Tanyffordd yn ei hanfod, ond mae’n cynnwys pentrefan llinellol Pisgah yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. |
|
|
Mae caeau rheolaidd o dir pori a rennir gan gloddiau â gwrychoedd yn un o brif elfennau The Hill. Ceir anheddiad llinellol bach yma, a ddechreuodd o bosibl fel anheddiad sgwatwyr, ac sy’n cynnwys bythynnod yn dyddio o’r 19eg ganrif a thai modern. |
|
|
Mae Trawscoed yn dirwedd ystad; yn ei chanol lleolir plasty Trawscoed, gerddi a pharcdir. Yn ystod yr 20fed ganrif addasodd sefydliadau’r llywodraeth lawer o’r parcdir (er na newidiwyd ei gymeriad yn ei hanfod), ac adeiladwyd swyddfeydd ac adeiladau amaethyddol mawr yn ogystal â rhai tai modern. |
|
|
Caeau bach o dir pori a rennir gan gloddiau â gwrychoedd, ychydig o goetir collddail, a ffermydd a bythynnod gwasgaredig yw rhai o brif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Ty’n-y-Castell. |
|
|
Mae Waun Wyddyl yn fryn agored o dir pori wedi’i wella a rennir gan ffensys gwifrau lle yr adeiladwyd fferm wynt ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn a nifer o henebion angladdol a defodol posibl yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd. |
|
|
Adeiladwyd llawer o’r adeiladau yn nhirwedd y Wenallt gan ystad Trawscoed neu dylanwadwyd arnynt ganddi, ac maent yn cynnwys tþ Sioraidd a fferm y Wenallt a adeiladwyd ar gyfer yr ystad. Nodweddir y dirwedd amaethyddol gan gaeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd. Mae coetir a choed a blannwyd yn rhoi naws parcdir i rannau o’r dirwedd. |
|
|
Lleolir ardal dirwedd Ysgubornewydd ar fryniau crwn ac mae’n cynnwys caeau o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd, ond mae caer yn dyddio o’r Oes Haearn a chrug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd. |
|
|
Mae Ystumtuen yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymhleth lle y ceir olion y diwydiant cloddio plwm yn gymysg â daliadau amaethyddol. Ceir nifer weddol fawr o aneddiadau ar gyfer ardal wledig, ond mae llawer o safleoedd tai anghyfannedd yn tystio i dirwedd a oedd yn llawer mwy poblog yn y 19eg ganrif. |
Cyswllt y prosiect: Ken Murphy