 |
Pen Caer: Garn Fawr a Phen Strwmbwl 

Nodwyd chwe ardal â nodweddion tirwedd hanesyddol ym Mhen Caer:
tirwedd Garn Fawr a Strumble Head. Mae’r rhain yn amrywio o’r
llinyn arfordirol sy’n agored iawn, sef Goleudy Pen Stwmbwl, i gefnen
o weundir uchel lle gwelir bryngaer Oes Haearn y Garn Fawr yn dominyddu’r
dirwedd, gyda’i wrthgloddiau wedi eu hatgyfnerthu â cherrig.
Mae yna gaeau sydd wedi’u rhannu gan waliau cerrig sychion a chloddiau,
a ffermydd gwasgaredig sy’n gorwedd rhwng yr arfordir a chefnen
y gweundir. Ar wahân i’r lleiniau cysgodi sydd wrth ymyl y
ffermydd, ychydig iawn o goed sydd i’w cael yma. Mae’r fro
yn cynnwys yr harbwr diwydiannol a’r dref yn Wdig a ddatblygwyd
o diwedd y 19eg ganrif ymlaen.
Murphy K and Ludlow N 2003 Historic Landscape Characterisation of Pen
Caer, Newport and Carningli, Manorbier and Stackpole Warren, Adroddiad
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Rhif 2003/6
|