 |
Trefdraeth a Charningli 

Mae yna naw ardal â nodweddion tirwedd hanesyddol yn ardal Trefdraeth
a Charningli. Mae’r ardaloedd hyn yn adlewyrchu amrywiaethau a chymhlethdodau’r
dirwedd hanesyddol. Un ardal yw tref hynafol Trefdraeth, gyda’i
batrwm o strydoedd canoloesol i’w weld fel rhan amlwg i’i
gynluun presennol, a nifer dda o adeiladau hardd wedi’u hadeiladu
o gerrig lleol. Uwchben, mae’r tir yn codi’n sydyn i ffurfio
ardal nodwedd arall – dyma weundir agored a llwm Comin Carningli
gyda’i ragfur caregog sy’n rhan o fryngaer enfawr. Mae ardaloedd
eraill yn cynnwys clogwyni uchel yn ymyl y môr, aber yr afon Nyfer,
a chaeau a ffermydd y tir cyfoethog ar hyd y llain arfordirol.
Murphy K and Ludlow N 2003 Historic Landscape Characterisation of Pen
Caer, Newport and Carningli, Manorbier and Stackpole Warren, Adroddiad
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Rhif 2003/6
|