 |
Maenorbyr 

Mae Maenorbyr yn dirwedd mwy unffurf na llawer sydd ar y Gofrestr o Dirweddau
o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Serch hynny mae’n
bosib diffinio deg ardal â nodweddion tirweddol hanesyddol. Y brif
ardal nodwedd yw system o leiniau gyda ffermydd gwasgaredig. Mae’r
lleiniau yn y system hon yn anarferol gan eu bod yn rhedeg am gan medr
ac yn cael eu rhannu gan gloddiau a pherthi, waliau cerrig sychion a waliau
morter. Mae ardaloedd eraill yn cynnwys pentref Maenorbyr, pentref Jameston,
a thirweddau o gaeau mawr, rheolaidd eu siâp a ffermydd gwasgaredig
gyda ffermdai neu hen anedd-dai sy’n dyddio i ddiwedd y canoloesoedd.
Murphy K and Ludlow N 2003 Historic Landscape Characterisation of Pen
Caer, Newport and Carningli, Manorbier and Stackpole Warren, Adroddiad
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Rhif 2003/6
|