 |

GWERSYLL MAENORBYR
CYFEIRNOD GRID: SS 075970
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 31
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Benfro yn cynnwys
y pentir o’r enw Old Castle Head. Yn hanesyddol, roedd yr ardal
yn ffurfio rhan o’r llain arfordirol gul rhwng Freshwater East a
Lydstep, a fu’n dir ymylol erioed, yn gorwedd rhwng tir wedi’i
drin a’r clogwyni. Fodd bynnag, mae safle anheddu cynhanesyddol,
bryngaer o’r oes haearn ar bentir yr Old Castle Head, yn nodwedd
amlwg yn yr ardal. Yn y fryngaer gellir gweld olion llwyfannau cytiau
o fewn y caeadle amlglawdd, gydag estyniad i’r gogledd nad yw mewn
cyflwr cystal. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai ym maenor Eingl-Normanaidd,
Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth fên neu farwniaeth
freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac
Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth
a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar
hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto.
Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed
ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i
gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn
1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael
ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant
y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Yn ystod y cyfnod hanesyddol, tir pori
garw oedd y defnydd tir - gan gynnwys pori defaid o bosibl gan fod tri
o denantiaid pentrefan Maenorbyr yn berchen ar ffaldau ar ddechrau’r
17eg ganrif. Mae’r enw ‘Conigar Pit’ hefyd yn awgrymu
hen gwningar. Mae mapiau ystad o ddiwedd y 18fed ganrif, a map y degwm,
yn dangos y pentir fel un caeadle mawr o’r enw ‘Old Castle’
gyda chae mawr o’r enw ‘Open Ground’. Sefydlwyd Gwersyll
Maenorbyr ar Old Castle Head fel ysgol arfau gwrthawyrennol yn ystod yr
Ail Ryfel Byd, ac mae’n cynnwys nifer o adeileddau a gosodiadau.
Mae dal yn weithredol o dan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn defnyddio’r
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach hon. Gorwedda ar bentir bach –
Old Castle Head – oddeutu 50m i 60m uwchben lefel y môr. Arferai’r
gwersyll milwrol fod yn fwy o faint nag ydyw heddiw, gyda gosodiadau yn
ymestyn draw ar ben y clogwyni i’r dwyrain, ond dim ond y rhan o’r
gwersyll ar y pentir a ddefnyddir erbyn hyn. Ar wahân i gloddiau’r
fryngaer o’r oes haearn ar yr Old Castle Head ac adeiladau milwrol
o’r Ail Ryfel Byd, nodweddir y dirwedd gan adeileddau milwrol modern
mawr a ffyrdd wedi’u gwahanu oddi wrth ei gilydd gan dir pori wedi’i
wella.
Mae’r gwersyll milwrol yn nodwedd sy’n gwneud
yr ardal hon yn wahanol i’r llain arfordirol i’r gorllewin,
i’r de ac i’r dwyrain, ac i’r tir ffermio i’r
gogledd.
Ffynonellau: Cadw 2001; King a Perks 1970; map degwm Plwyf Maenorbyˆ
r 1842; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf 88; Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Map 11 Pictwn; Thomas 1994; Walker 1992

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |