Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Dolaucothi
|
241 Mae ardal gymeriad Dolaucothi - Pumsaint yn ymestyn ar draws llawr dyffryn afon Cothi ac mae'n cynnwys pentref Pumsaint, a'r parc a'r gerddi sy'n gysylltiedig â Thy Dolaucothi gynt. Adeiladau o'r 19eg ganrif a godwyd mewn arddull nodedig gan ystad Dolaucothi yn y 1850au sydd yn y pentref gan fwyaf. |
|
242 Lleolir ardal gymeriad Cwrt-y-cadno yn nyffryn Cothi uchaf. Tirwedd o ffermydd gwasgaredig, caeau bach a choetir ydyw. Adeiladwyd llawer o'r ffermydd gan ystad Dolaucothi yn y 1850au yn arddull nodedig 'llyfr-patrwm'. |
|
243 Gweddillion y diwydiant cloddio aur sy'n dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid hyd yr 20fed ganrif yw ardal gymeriad Cloddfeydd Aur Dolaucothi. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y safle, ac maent wedi ailgodi enghreifftiau o adeiladau sy'n gysylltiedig â chloddio i ddenu ymwelwyr. |
|
244 Pentref Caeo yw canolbwynt ardal gymeriad Caeo. Fodd bynnag, prif elfennau'r dirwedd hon yw ffermydd gwasgaredig a chaeau pori afreolaidd eu maint a gwrthgloddiau a gwrychoedd yn eu rhannu. |
|
| 245 Planhigfa fawr o goed coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif wedi'i thaenu dros weundir agored yw 'Fforest Caeo'. |
|
246 Mae ardal gymeriad Banc Llwynceiliog ar ran uchaf ochr dyffryn afon Cothi. Mae'r hen wrthgloddiau a'r gwrychoedd a fu'n gloddiau terfyn i'r clostiroedd wedi syrthio erbyn hyn ac mae'r ardal, yn ei hanfod, yn ardal o dir pori wedi'i wella. Mae cloddweithiau unionlin dyfrbontydd Rhufeinig sy'n dilyn ochr y dyffryn yn elfennau amlwg yn y dirwedd. |
|
247 Llwyfandir o weundir uchel yw ardal gymeriad Mynydd Malláen. Fe'i hamgylchynir gan ffermydd a chaeau ar dir is ac o boptu iddo ceir tir coedwigaeth. |
|
248 Mae ardal gymeriad Dyffryn Fanagoed yn ymestyn ar draws llawr a llechweddau isaf dyffryn uchel agored, a cheir yno ffermydd gwasgaredig, y mae eu hadeiladau gan fwyaf yn dyddio o'r 19fed ganrif, a chaeau bach afreolaidd eu siâp. |
|
| 249 Coetir o goed collddail hynafol a phlanhigfeydd o goed coniffer ar ochrau serth dyffryn Cothi uchaf yw ardal gymeriad Allt-yr-hebog. |
|
250 Coetir o goed collddail ac ychydig o weundir ar lethrau serth a chreigiog dyffryn Cothi uchaf yw ardal gymeriad Allt-y-Berth. |
|
251 Mae ardal gymeriad Cefn Branddu yn ymestyn dros gefnen uchel â'i brig yn grwn. Mae hen gloddiau terfyn wedi syrthio erbyn hyn a thir pori agored wedi'i wella, gweundir ynghyd â rhedyn, a choetir o goed collddail ar y llethrau serth o boptu iddi yw tirwedd yr ardal yn ei hanfod yn awr. |
|
252 Planhigfa goedwigaeth fawr o'r 20fed ganrif wedi'i sefydlu dros weundir uchel yw ardal gymeriad Bryn Arau Duon. |
|
253 Mae ardal gymeriad Dyffryn Cothi yn ymestyn ar draws gorlifdir a gwaelod ochrau dyffryn afon Cothi a'i hisafonydd. Fe'i nodweddir gan ffermydd a chaeau pori gwasgaredig. Mae'r hyn a fu gynt yn barcdir yn ymestyn dros lawr y dyffryn nid nepell oddi wrth Rhydodyn a Glan yr Annell. |
Cysylltydd prosiect: Ken Murphy
[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]